Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Ebrill 2013 i'w hateb ar 8 Mai 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

 

1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu polisïau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0009(NRF)

 

2. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o nwyeiddio glo yng Nghymru? OAQ(4)0005(NRF)

 

3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am les anifeiliaid domestig? OAQ(4)0003(NRF)

 

4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):  A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Tir Comin Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0015(NRF)

 

5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyflenwadau cynaliadwy o ffrwythau a llysiau mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd? OAQ(4)0017(NRF)

 

6. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i Ŵyl Fwyd y Fenni? OAQ(4)0006(NRF)

 

7. Alun Ffred Jones (Arfon): Beth yw cynlluniau'r Gweinidog i farchnata cynnyrch bwyd Cymru? OAQ(4)0010(NRF)W

 

8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu Polisi a Strategaeth Fwyd Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0007(NRF)

 

9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0012(NRF)

 

10. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol lladd-dai yng Nghymru?  OAQ(4)0004(NRF)W

 

11. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad yn erbyn y targed ar gyfer plannu coed erbyn 2020 o fewn Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol? OAQ(4)0013(NRF)W

 

12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa gamau gweithredu y bydd y Gweinidog yn eu cymryd yn dilyn y Tribiwnlys Apelau Cystadlu diweddar, lle y gorchmynnwyd i Dŵr Cymru dalu bron £1.9m i Albion Water? OAQ(4)0008(NRF)

 

13. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau echdynnu dŵr yn fasnachol yng Nghymru? OAQ(4)0011(NRF)

 

14. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Sawl cyfarfod y mae'r Gweinidog wedi ei gael gyda chynrychiolwyr y diwydiant amaethyddol ers iddo gael ei benodi? OAQ(4)0014(NRF)W

 

15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa rôl y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chwarae o ran ystyried prosiectau ynni adnewyddadwy yng nghanolbarth Cymru. OAQ(4)0016(NRF)W

 

 

Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

 

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o asesiadau marchnad tai o fewn cynlluniau datblygu lleol?   OAQ(4)0255(HR)

 

2. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):  Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ers ei benodi i’w swydd?  OAQ(4)0250(HR)W

 

3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa ragamcanion sydd gan y Gweinidog am effaith y newidiadau i fudd-dal ar lif arian parod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig? OAQ(4)0245(HR)

 

4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar geisiadau cynllunio sydd wedi eu ‘galw i mewn’? OAQ(4)0246(HR)

 

5. Keith Davies (Llanelli): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â chanllawiau cynllunio? OAQ(4)0257(HR)W

 

6. Eluned Parrott (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu Safon Ansawdd Tai Cymru yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0248(HR)

 

7. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfraniad y mae'r gwasanaeth Gofal a Thrwsio yn ei wneud o ran helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion polisi. OAQ(4)0254(HR)

 

8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ar adfywio cymunedol? OAQ(4)0244(HR)

 

9. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith ôl-ddyledion rhent yn y sector tai cymdeithasol? OAQ(4)0252(HR)

 

10. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd eiddo un ystafell wely ar gyfer tai cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf? OAQ(4)0247(HR)

 

11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig. OAQ(4)0251(HR)

 

12. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau gweithredu y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i gwrdd â'r galw am dai? OAQ(4)0258(HR)W

 

13. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd? OAQ(4)0253(HR)

 

14. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi eu cael gydag adeiladwyr tai ynglŷn â chartrefi sy'n cael eu hadeiladu o'r newydd? OAQ(4)0242(HR)

 

15. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 yn y chwe mis diwethaf? OAQ(4)0243(HR)